Nid ar gyfer mêl neu canhwyllau cwyr gwenyn yn unig mae gwenyn mêl. Maen nhw’n beillwyr pwysig. Bydd Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd i fyny’r grisiau yn Nhy Siamas, Sgŵar Eldon, Dolgellau ddydd Sul 26ain Gorffennaf gyda arddangosfeydd a gwybodaeth am wenyn a chadw gwenyn, gwenyn byw mewn cwch gwenyn arsylwi, paill o dan y microsgop a mwy.